Prinder ynni

Mae toriadau pŵer oherwydd prinder ynni yn brin. Byddent yn digwydd am nad oes digon o bŵer yn cael ei gynhyrchu i fodloni’r galw gan gartrefi a busnesau ledled y wlad.

Gall toriadau pŵer ddigwydd am amrywiaeth o resymau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Yr hyn sy'n achosi’r rhan fwyaf o doriadau pŵer yw pan fydd rhywun yn difrodi cebl pŵer yn y ffordd. Ers 2015, mae nifer y toriadau pŵer wedi lleihau 10% diolch i fuddsoddiad yn ein rhwydweithiau pŵer. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ‘beth sy'n achosi toriad pŵer’.

National Grid ESO (Electricity System Operator) sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod digon o bŵer yn cael ei gynhyrchu i ddiwallu anghenion cwsmeriaid. Cadw’r system ynni'n ‘gytbwys’ yw'r enw ar hyn.

Pan fydd gormod o alw am drydan a dim digon o drydan yn cael ei gynhyrchu, mae'n bosibl y bydd angen diffodd pŵer i gartrefi a busnesau. Dim ond pan fetho popeth arall y caiff hyn ei wneud.

Cyn datgysylltu’r pŵer, bydd National Grid ESO yn gwneud y canlynol:

  • Gofyn am i fwy o drydan gael ei gynhyrchu

  • Gofyn i fusnesau mawr ddefnyddio llai o bŵer

  • Talu cwsmeriaid am ddefnyddio llai o ynni ar adegau o angen

Gallwch holi eich cyflenwr ynni i weld a allwch gael eich talu am ddefnyddio llai o ynni ar adegau o angen. Gofynnwch iddo am fwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Hyblygrwydd Galw/Demand Flexibility Service.

Beth fydd yn digwydd?

Os bydd angen toriadau pŵer oherwydd prinder ynni, byddent yn cael eu rhannu ledled y wlad. Mae hyn yn helpu i leihau faint o bŵer y bydd ei angen ar Brydain heb ddiffodd y pŵer i bawb ar yr un pryd.

Mae’n debygol y bydd y toriadau pŵer hyn yn cael llawer o gyhoeddusrwydd yn y cyfryngau cymdeithasol ac ar sianeli newyddion prif ffrwd, fel BBC News. Gan fod camwybodaeth yn gallu lledaenu'n gyflym ar-lein, mae'n bwysig cael newyddion drwy ffynhonnell ddibynadwy. Byddwn yn diweddaru’r wefan hon os caiff unrhyw beth ei gyhoeddi.

Os bydd prinder ynni, gallai eich pŵer gael ei ddiffodd am tua thair awr. Os bydd y prinder yn debygol o bara ychydig ddyddiau, caiff rota toriadau pŵer argyfwng ei chyhoeddi ar y wefan hon.

Pan fyddwch yn rhoi eich cod post, byddwch yn gallu gweld pryd y cewch chi doriad pŵer y diwrnod canlynol.

Byddwch hefyd yn gweld amserlen sy'n dangos pryd y bydd risg o doriad pŵer am ychydig ddyddiau wedi hynny, hyd yn oed os na fydd hyn wedi’i gadarnhau. Bydd yn bwysig dod yn ôl i edrych ar eich rota toriadau pŵer bob nos.

Cwestiynau cyffredin

 

Beth yw llythyren bloc?

Mae eich cartref a’ch stryd wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith trydan drwy is-orsaf. Caiff cod ei roi i’r cysylltiad hwn, a gaiff ei alw'n ‘llythyren bloc’. Mae’r wlad wedi’i rhannu'n nifer o lythrennau bloc. Mae hyn yn helpu'r rhwydweithiau trydan i reoli toriadau pŵer argyfwng mewn ffordd deg.

Mae eich llythyren bloc yn sefydlog ac ni fydd yn newid oni fyddwch yn symud tŷ. Mae'r llythyren yn seiliedig ar ble rydych chi’n byw a sut mae eich eiddo wedi’i gysylltu â’r grid trydan. Gallwch weld eich llythyren bloc ar eich bil trydan, o dan y cyfeiriad.

Bydd pawb sydd â’r un llythyren bloc yn rhannu'r un amserlen toriadau pŵer.

Ble gallaf weld fy llythyren bloc?

Gallwch ddod o hyd i’ch llythyren bloc drwy wneud y canlynol:

  • Rhoi eich cod post ar ein gwefan.

  • Edrych ar eich bil trydan, lle y bydd eich llythyren bloc i’w gweld mewn blwch sgwâr yn nhraean uchaf y dudalen flaen.

  • Os na allwch ddod o hyd i’ch llythyren bloc ar y wefan hon nac ar eich bil trydan, ffoniwch 105 er mwyn siarad â’ch gweithredwr rhwydwaith lleol.

Rwy'n ddibynnol ar drydan am resymau meddygol. Beth ddylwn i ei wneud?

Gan amlaf, bydd cwsmeriaid sy'n ddibynnol ar drydan am resymau meddygol yn gyfarwydd â’r broses a chyfyngiadau eu hoffer gan fod toriadau pŵer yn gallu digwydd o bryd i’w gilydd yn ystod blwyddyn arferol, gan gynnwys yn ystod tywydd garw, ar gyfer gwaith cynnal a chadw rheolaidd neu oherwydd difrod a phroblemau cyffredin eraill. Yn aml, bydd gan y cwsmeriaid hyn ffynonellau pŵer wrth gefn er mwyn parhau i bweru offer hanfodol am sawl awr yn ystod toriad pŵer.

Dylai cwsmeriaid y mae angen iddynt gael cyflenwad parhaus o drydan am resymau meddygol, ac y byddai angen iddynt gael cymorth meddygol yn ystod toriad pŵer, geisio cyngor gan eu darparwr gwasanaeth iechyd lleol.

Dylai cyflenwadau pŵer wrth gefn ac offer cysylltiedig gael eu harchwilio'n rheolaidd a'u cynnal a'u cadw gan berson cymwys. Os bydd gennych bryderon, dylech siarad â’ch darparwr offer meddygol neu ofal iechyd nawr.

Beth ddylwn i ei wneud i baratoi?

Gallwch chi gymryd rhai camau syml i baratoi:

  • Cadw ffôn symudol wedi’i wefru'n llawn.

  • Ychwanegu'r rhifau ffôn argyfwng at eich cysylltiadau.

  • Rhoi nod tudalen ar y wefan hon ar eich ffôn symudol.

  • Cadw tortsh o fewn cyrraedd rhag ofn y byddwch chi heb bŵer yn ystod y nos.

  • Sicrhau bod gennych ddillad cynnes a blancedi wrth law.

  • Galw yn nhai eich cymdogion, eich teulu a’ch ffrindiau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn iawn.

  • Gosod eich radio car neu radio batri i wrando ar eich gorsaf radio leol er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

  • Defnyddio dulliau gwresogi, goleuo neu goginio amgen, ond dim ond os gallwch wneud hynny'n ddiogel.

  • Gwneud yn siŵr bod gennych larwm carbon monocsid sy'n gweithio ac wedi cael ei brofi.

  • Sicrhau bod gennych fwyd a diod nad oes angen trydan i'w gwresogi na'u paratoi.

  • Cadw drysau oergelloedd a rhewgelloedd ar gau er mwyn cadw'r hyn sydd ynddynt yn ffres.

  • Efallai yr hoffech ystyried cyfyngu ar eich defnydd o’ch gliniadur neu’ch ffôn clyfar yn y cyfnod cyn y toriad pŵer argyfwng er mwyn arbed y batri.

Beth ddylwn i ei wneud yn ystod toriad pŵer?

  • Diffoddwch bob dyfais drydanol yn y wal, heblaw oergelloedd a rhewgelloedd.

  • Gadewch olau ymlaen fel y byddwch yn gwybod pan fydd y pŵer wedi dychwelyd.

  • Edrychwch i weld a yw eich cymdogion a’ch perthnasau'n iawn.

  • Os bydd y tywydd yn oer, cadwch flancedi a dillad cynnes o fewn cyrraedd.