Toriad Pŵer?

Gallwch weld pa rwydwaith trydan lleol rydych chi wedi eich cysylltu ag ef drwy roi eich cod post i mewn. Ewch i wefan eich gweithredwr rhwydwaith lleol i roi gwybod am doriad pŵer a chadw golwg ar ddiweddariadau pan fydd problem. 

Chwilio am eich gweithredwr rhwydwaith trydan

Rhowch eich cod post a phwyswch ‘Chwilio’

*Maes gofynnol

Sut i baratoi

Diolch i fuddsoddiad parhaus yn y rhwydweithiau pŵer, mae nifer y toriadau pŵer wedi lleihau ers 2015. Ond gall toriadau pŵer ddigwydd o hyd, yn enwedig os caiff ceblau a chyfarpar eu difrodi. Dyna pam mae'n bwysig gwneud cynllun a gwybod beth i’w wneud os cewch chi doriad pŵer.

Paratowch

Gwnewch gynllun. Bydd angen i chi wybod beth i’w wneud os cewch chi doriad pŵer neu os byddwch yn arogleuo nwy. Cofiwch: ni fydd boeleri na hobiau nwy, pympiau gwres, y rhyngrwyd na ffonau'n gweithio heb bŵer.

Gofalwch

Cadwch olwg ar bobl y gallai fod angen help ychwanegol arnynt. Helpwch nhw i ymuno â’r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth, a all roi cymorth iddynt. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod beth i’w wneud os bydd toriad pŵer.

Rhannwch

Sut mae cael help a chymorth ychwanegol?

Sut mae cael help a chymorth ychwanegol?

Gwasanaeth am ddim er mwyn helpu pobl sydd ag anghenion ychwanegol yw’r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth. Mae ar gael i gwsmeriaid yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ymuno drwy gysylltu â’ch gweithredwr rhwydwaith lleol neu’ch cyflenwr ynni.

Help a Chymorth

Pa rwydwaith pŵer rwyf wedi fy nghysylltu ag ef?

Y cwmnïau sy'n pweru eich cartref yw gweithredwyr rhwydwaith trydan. Nhw sy'n rheoli ac yn cynnal a chadw’r ceblau dan ddaear, y gwifrau uwchben a’r is-orsafoedd sy'n darparu trydan i’ch cymuned. Maent yn wahanol i’ch cyflenwr ynni.

Mae sawl gweithredwr rhwydwaith trydan yn gwasanaethu gwahanol rannau o Brydain Fawr, gan bweru ein cymunedau. Ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch ffonio 105 am ddim a byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â’ch gweithredwr rhwydwaith lleol. Y ffordd gyflymaf o roi gwybod am broblem yw gwneud hynny ar-lein. Gallwch weld pwy yw eich gweithredwr rhwydwaith trydan drwy roi eich cod post ar ein gwefan neu ddefnyddio’r map.

Cliciwch neu tapiwch eich rhanbarth ar y map er mwyn mynd i wefan eich gweithredwr rhwydwaith trydan.

Gweithredwyr rhwydwaith trydan

Y cwmnïau hyn sy’n gweithredu’r rhwydwaith trydan mewn gwahanol ranbarthau ledled Prydain Fawr.

Gweithredwyr rhwydwaith trydan annibynnol

Mae'r cwmnïau hyn yn gweithredu rhwydweithiau trydan llai mewn rhannau o’r wlad.