Chwilio am fy llythyren bloc

Mae llythrennau bloc yn helpu’r rhwydweithiau trydan i wybod pa ran o’r grid trydan y mae eich cartref wedi’i gysylltu â hi.

Mae eich cartref a’ch stryd wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith trydan drwy is-orsaf. Caiff cod ei roi i’r cysylltiad hwn, a gaiff ei alw'n ‘llythyren bloc’. Gallwch weld y llythyren hon ar dudalen gyntaf eich bil ynni neu drwy roi eich cod post i mewn ar ein gwefan.

Mae’r wlad wedi’i rhannu'n nifer o lythrennau bloc. Os caiff rota toriadau pŵer ei chyflwyno yn ystod prinder ynni, sy'n annhebygol, bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â’r un llythyren bloc wedi’u hamserlennu i fod heb bŵer ar yr un pryd.

Ni fydd eich llythyren bloc yn newid oni fyddwch yn symud tŷ. Mae'r llythyren yn seiliedig ar ble rydych chi’n byw a sut mae eich eiddo wedi’i gysylltu â’r rhwydwaith trydan.

Gallwch ddod o hyd i’ch llythyren bloc:

  • Drwy roi eich cod post ar ein gwefan

  • Drwy chwilio am y llythyren ar frig eich bil ynni. Bydd fel arfer i’w gweld wrth ymyl y cyfeiriad cyflenwi ar ffurf un llythyren mewn blwch. Yn dibynnu ar bwy sy'n cyflenwi eich ynni, mae’n bosibl y bydd wedi’i labelu fel ‘Llythyren Bloc Rota’/‘Rota Block Letter’, neu efallai na fydd wedi’i labelu o gwbl.

Os na allwch ddod o hyd i’ch llythyren bloc ar y wefan hon nac ar eich bil trydan, ffoniwch 105 am ddim er mwyn siarad â’ch gweithredwr rhwydwaith lleol.

Rhagor o wybodaeth am brinder ynni.