Beth sy'n achosi toriad pŵer?

Yr hyn sy'n achosi’r rhan fwyaf o doriadau pŵer yw difrod i geblau a seilwaith arall. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o doriad pŵer ar gael yma.

Os bydd toriad pŵer, rhowch wybod amdano ar-lein.

Toriadau pŵer wedi'u cynllunio

Dyma’r toriadau pŵer a fydd yn digwydd pan gaiff gwaith cynnal a chadw ei wneud i wella'r rhwydwaith pŵer. Mae’n bosibl gwneud llawer o waith heb ddiffodd y pŵer ond, weithiau, bydd angen diffodd y pŵer am gyfnod byr.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl

Os bydd angen i’ch gweithredwr rhwydwaith trydan ddiffodd eich pŵer ar gyfer gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio, bydd yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Bydd yn ceisio rhoi o leiaf 48 awr o rybudd i chi. Os bydd rhaid i’r gwaith gael ei wneud oherwydd argyfwng, mae'n bosibl na fydd modd rhoi gwybod i chi ymlaen llaw.

Toriadau pŵer heb eu cynllunio

Gall toriadau pŵer heb eu cynllunio ddigwydd pan fydd problem ar y rhwydwaith pŵer. Yn debyg i’r switsh tripio yn eich cartref, mae'r rhwydwaith trydan yn cynnwys offer diogelwch a fydd yn diffodd y pŵer os bydd yn canfod problem. Gall hyn ddigwydd os bydd rhywun neu rywbeth wedi difrodi gwifren, cebl neu ddarn arall o offer trydanol.

Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl

Os cewch chi doriad pŵer, dylech roi gwybod amdano ar-lein. Bydd eich gweithredwr rhwydwaith lleol yn ymchwilio i’r broblem ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth iddo weithio i’ch ailgysylltu.

Yn dibynnu ar achos y broblem, mae'n bosibl y bydd angen iddo anfon tîm o beirianwyr i edrych ar offer neu is-orsaf ger eich cartref. Anaml y bydd angen iddynt ddod i mewn i’ch cartref ond, os bydd angen iddynt wneud hynny, byddant bob amser yn dangos bathodyn adnabod. Os bydd rhywun yn galw yn eich cartref, gofynnwch am gael gweld ei fathodyn adnabod bob tro. Gallwch ffonio 105 am ddim i gadarnhau ei fod yn dweud y gwir am bwy ydyw. Ni fydd ots gan weithwyr cwmnïau pŵer go iawn aros y tu allan tra byddwch chi’n gwneud hyn.

Os ydych chi'n aelod o'r Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth a'i bod yn debygol y bydd y pŵer wedi’i ddiffodd am beth amser, bydd eich gweithredwr rhwydwaith yn ceisio cysylltu â chi i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Toriadau pŵer oherwydd prinder ynni

Pan fydd prinder ynni, mae’n bosibl y bydd angen diffodd eich pŵer am gyfnod byr. Mae hyn yn brin dros ben ond, os bydd angen gwneud hyn, bydd y toriadau pŵer hyn yn helpu i sicrhau bod digon o ynni i bawb, yn enwedig pan fydd llawer o alw am ynni, er enghraifft amser te.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalen ‘Prinder ynni’.