Iawndal

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gael iawndal os cewch chi doriad pŵer.

Bydd yr hyn y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar y canlynol:

  • ai gwaith wedi’i gynllunio oedd y rheswm dros y toriad pŵer
  • am faint o amser y buoch heb bŵer
  • a fethodd gweithredwr rhwydwaith â chyrraedd safonau a bennwyd gan Ofgem, sef y rheoleiddiwr ynni ym Mhrydain Fawr

Yr hyn y gallwch ei hawlio

Iawndal am doriadau pŵer mewn tywydd arferol

Bydd gan weithredwyr rhwydwaith 24 awr i ailgysylltu eich pŵer os bydd un broblem wedi effeithio ar fwy na 5,000 o gartrefi. Os byddwch heb bŵer am 12 awr neu fwy, gallwch hawlio:

  • £90 fel cwsmer domestig.
  • £150 fel cwsmer annomestig.
  • Gallwch gael £40 arall am bob 12 awr ychwanegol o fod heb bŵer, hyd at gyfanswm o £300.

Os byddwch heb bŵer fwy na phedair gwaith mewn blwyddyn, a hynny am o leiaf dair awr bob tro, gallwch hefyd hawlio:

  • £90 fel cwsmer domestig.
  • £90 fel cwsmer annomestig.

Mae'r flwyddyn yn rhedeg o 1 Ebrill tan 31 Mawrth.

Iawndal am doriadau pŵer mewn tywydd garw

Bydd pryd y gallwch hawlio yn dibynnu ar y ffordd y bydd Ofgem yn categoreiddio stormydd mewn tywydd garw.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Ofgem.

Sut i hawlio iawndal am doriad pŵer

Bydd angen i chi gyflwyno hawliadau iawndal am broblemau cyflenwad i’ch gweithredwr rhwydwaith o fewn:

  • tri mis am doriadau pŵer heb eu cynllunio
  • un mis am doriadau pŵer wedi’u cynllunio
  • Hawliwch iawndal drwy eich gweithredwr rhwydwaith lleol. Gallwch weld ei fanylion drwy roi eich cod post i mewn ar ein tudalen hafan

Rhagor o help

Gall Cyngor ar Bopeth ac Advice Direct Scotland helpu os bydd angen cymorth arnoch.

Cyngor ar Bopeth

  • Ffoniwch 0808 223 1133 neu defnyddiwch y cyfleuster gwe-sgwrsio.
  • Ar gyfer ffôn testun, deialwch 18001 ac yna rif y llinell gymorth.

Advice Direct Scotland

Caiff gweithredwyr rhwydwaith eu rheoleiddio gan Ofgem. Ofgem sy'n pennu’r safonau gwasanaeth y mae’n rhaid i weithredwyr rhwydwaith eu cyrraedd. Mae’r rhain yn cynnwys rheolau ar ba mor gyflym y mae'n rhaid i weithredwyr adfer y cyflenwad mewn tywydd arferol a thywydd garw, ac iawndal y bydd defnyddwyr yn ei gael os na chaiff y safonau eu cyrraedd. Mae rhagor o wybodaeth am iawndal ar gael ar wefan Ofgem.